at-a-glance guide to licensing in schools
some activities requiring a licence
  ccli cla era ppl prs
Llungopïo, atgynhyrchu â llaw neu yn electronig amrywiaeth eang o emynau a chaneuon addoli i'w defnyddio yn ystod gwasanaethau ar gyfer cydaddoli        
Trefnu drama ysgol, cyngerdd diwedd tymor neu berfformiad sy'n cynnwys cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth wedi ei recordio y mae teuluoedd neu ffrindiau yn mynd iddo / iddi      
Recordio darllediad radio neu deledu i ddibenion addysgol        
Llungopïo erthyglau o gylchgronau neu lungopïo darnau o werslyfrau        
Chwarae radio neu chwaraeydd tâp / CDdiau mewn swyddfeydd gweinyddu neu ystafelloedd athrawon      
Cynnal disgo neu ffair ysgol y tu allan i oriau ysgol      
Creu tryloywderau ar gyfer uwchdaflunydd o gylchgronau neu lyfrau i'w defnyddio yn ystod yr Awr Lythrennedd        
Gosod ystafelloedd ar gyfer dosbarthiadau cadw'n heini / erobeg      
Dangos ffilmiau fideo i glwb ffilmiau ar ôl ysgol        
Defnyddio cerddoriaeth pan gaiff llinell ei dal ar eich system ffôn      
Creu a storio ar gyfrifiadur lyfr emynau neu daflen garolau yr ysgol        
Cynhyrchu recordiadau fideo neu sain o wasanaeth carolau'r ysgol neu w+yl grefyddol / dymhorol arall i'w dosbarthu i rieni        

Gellir cael manylion penodol am yr hawliau a gynrychiolir gan gyfranwyr unigol i'r canllaw hwn trwy glicio'r cysylltiadau ar gyfer pob corff.

Mae'r canllaw hwn i gyrff trwyddedu yn cynnwys y rhan fwyaf o'r gweithgareddau rheolaidd y mae ar ysgolion angen trwydded ar eu cyfer, ond nid yw'n gyflawn. Gall y bydd rhaid cysylltu â chyrff eraill.