![]() A yw eich ysgol yn defnyddio uwchdaflunydd yn lle llyfrau emynau yn ystod gwasanaethau? A yw eich ysgol yn defnyddio recordiadau o raglenni teledu a radio yn y dosbarth? A fyddwch yn chwarae cerddoriaeth mewn dosbarthiadau dawns neu erobeg? A yw eich cyllideb gyfyngedig yn golygu na allwch fforddio prynu digon o lyfrau neu gerddoriaeth ar gyfer eich disgyblion ac a ydych yn gorfod dibynnu ar lungopïau? A gynhelir disgos yn eich ysgol ambell waith? A ydych weithiau'n cynnal dramâu, sioeau cerdd neu gyngherddau? Dyma rai yn unig o'r gweithgareddau ysgol arferol sy'n dibynnu ar ddefnyddio llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelfyddyd yn eu gwahanol ffurfiau. Diogelir llawer o'r gweithiau hyn gan hawlfraint ac mae gan eu hawduron hawl i drwyddedu'r defnydd a wneir ohonynt ac i gael eu talu pan ddefnyddir hwy. Gwerth gweithiau creadigol Mae'r gweithiau hyn yn ganolog i'r cwricwlwm cenedlaethol fel pynciau yn eu rhinwedd eu hunain. Chwaraeant hefyd ran allweddol mewn paratoi plant i fod yn ddinasyddion gwell ac i gwrdd â sialensiau'r farchnad waith trwy gyfrannu at eu lles a'u datblygiad. Hawlfraint a'r diwydiannau creadigol Mae llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelfyddyd yn elfennau hanfodol o'r diwydiannau creadigol hefyd. Gwna'r diwydiannau hyn gyfraniad pwysig a chynyddol i economi ein gwlad. Mae un o bob 20 gweithiwr yn ennill ei fywoliaeth yn y diwydiannau creadigol ar hyn o bryd. Galluogodd trefn hawlfraint gadarn a gefnogir gan ddeddfwriaeth y rhan fwyaf o'r diwydiannau hyn i ddatblygu. Mae eu lles a bywoliaeth llawer o'ch disgyblion yn y dyfodol yn dibynnu ar gydnabod gwerth gweithiau hawlfraint trwy wneud taliad priodol am eu defnyddio. Eich cyfrifoldeb Rydych yn ymwybodol fod pob ysgol yn gyfrifol am sicrhau ei bod wedi cael pob trwydded hawlfraint angenrheidiol ar gyfer ei gweithgareddau. Diben y daflen hon yw rhoi gwybodaeth i chi a'ch cynorthwyo i adnabod pa weithgareddau y dylid eu trwyddedu ac i'ch cyfeirio at y corff priodol ym mhob achos er mwyn cael rhagor o wybodaeth a chanllawiau. Noder: Mae'r canllaw hwn i fudiadau trwyddedu yn cynnwys y rhan fwyaf o'r gweithgareddau rheolaidd y mae ar ysgolion angen trwydded ar eu cyfer, ond nid yw'n gyflawn. Gall y bydd rhaid cysylltu â chyrff eraill. Gellir cael trwyddedau ar gyfer rhai gweithgareddau ysgol yn uniongyrchol oddi wrth y perchennnog / perchenogion hawlfraint perthnasol. cyrff trwyddedu hawlfraint >>> |